• Sut gall ein cymunedau ffynnu?

    Annwyl gyd-bleidiwr

    Rwyf wedi bod yn ymgyrchu ar wahanol lefelau o lywodraeth ers dros 20 mlynedd bellach. Mae gennyf record llwyddiannus o ymgyrchu ar lefelau lleol a chenedlaethol, a hynny’n strategol er mwyn cyflawni newid. Pe bawn mor ffodus i gael fy newis, byddwn yn rhoi’r holl sgiliau hyn ar waith er lles trigolion ein cymunedau lleol.

    Taith i Annibyniaeth

    Nid rhyw fan gwyn fan draw yw’r Gymru annibynnol, mae’n rhaid adeiladu ein taith at annibyniaeth gan gryfhau ein cymunedau gorau y gallwn gyda’r pwerau cyfryngedig sydd gennym. Mae San Steffan wedi sefydlu strwythurau trafnidiaeth ac economaidd sydd wedi’u cynllunio er mwyn echdynnu cyfoeth o Gymru er lles de ddwyrain Lloegr. Felly, mae’n rhaid i ni gynllunio er mwyn sicrhau tegwch i bobl ac i gymunedau wrth uno ein cenedl gyfan.

    Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi cael y fraint o sgwrsio gyda nifer ohonoch ynghylch yr heriau economaidd sy’n ein hwynebu. Mae rhai blaenoriaethu wedi dod i’r amlwg megis: cysylltiadau trafnidiaeth gwan; yr argyfwng tai, a diffyg hunaniaeth i’r Gorllewin fel rhanbarth sy’n cynnig cyfleoedd i’n pobl ifanc. Heb os, mae’r sefyllfa gyda’r campws yn Llambed yn un enghraifft o’r heriau sy’n ein hwynebu.

    Datblygiadau Enilladwy

    Ymysg y datblygiadau yr hoffwn i weld i fynd i’r afael â’r amryw o heriau hyn fyddai:

    – ail-agor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, gydag ein cyfran deg o arian HS2 – dylai hyn fod yn flaenoriaeth i lywodraeth Plaid Cymru;
    – gweithredu cyflym ar gyflwyno newid y system trethu busnes lleol er mwyn hybu busnesau annibynnol lleol yn lle’r rheiny o tu allan;
    – hybu mentrau cymdeithasol, gan adeiladu ar gryfderau’r rhwydwaith cenedlaethol Cymunedoli;
    – symud swyddi sector gyhoeddus i’r Gorllewin, gan gynnwys un adran lawn o’r Llywodraeth i’w swyddfa yn Aberystwyth fel addawyd ddegawdau yn ôl;
    – ail-drefnu strwythur buddsoddi presennol i fod ar sail ranbarthol sy’n uno ein gwlad, gan adeiladu ar brofiadau Arfor;
    – blaenoriaethu prosiectau ynni adnewyddadwy lleol ym mherchnogaeth y gymuned ac amddiffyn ein cymunedau arfordirol rhag effeithiau newid hinsawdd;
    – cryfhau ymhellach systemau bwyd lleol i hybu’r diwydiant amaeth, gan adeiladu ar y cynllun ar gyfer ysgolion;
    – tai fel adnodd cyhoeddus – mynd i’r afael â’r argyfwng costau tai gan sicrhau rheoli prisiau rhent a thai fel eu bod yn fforddiadwy i bobl leol;
    – mesurau cryfach i gynllunio’r gweithlu – cefnogi ein colegau a’n prifysgolion i hyfforddi gweithwyr allweddol yn lleol a fydd yn sicrhau bod ein gwasanaethau’n gynaliadwy

    Pe bawn mor ffodus i gael fy newis gennych chi, byddwn yn blaenoriaethu cwpl o ymgyrchoedd y flwyddyn, sy’n strategol bwysig ac wedi eu cytuno â chi fel aelodau.

    Pa faterion eraill ydych chi’n meddwl y dylid eu hystyried fel blaenoriaethau ymgyrchu i’r tîm o aelodau a etholwn yn 2026? Mae croeso mawr i chi gysylltu â mi ar colin@nosworthy.cymru i rannu eich syniadau a’ch sylwadau.

    Cefnogwyr Colin


    Rwy’n falch o dderbyn cefnogaeth rhagor o aelodau yn yr etholaeth – yr academydd Yr Athro Jamie Medhurst, Einion Gruffydd o Aberystwyth a’r Cynghorydd Endaf Edwards.

    Dyma ddywedodd Einion: “Rydyn ni angen egni, ymroddiad, gallu a gonestrwydd Colin yn y Senedd, mae wedi gweithio’n galed ers blynyddoedd i yrru ymgyrch annibyniaeth i Gymru yn ei flaen, mae’n talu sylw i fanylion ac yn credu mewn tegwch i bawb, bydd yn aelod gwych o’r Senedd.”

    Pe hoffech gefnogi fy ymgyrch, mae croeso i chi e-bostio colin@nosworthy.cymru.


    Cofiwch am yr hystingau! 

    Mae angen bod yn bresennol yn un o’r cyfarfodydd hyn i allu pleidleisio:
    – Nos Iau 10 Ebrill, 19:30, Gwesty Feathers Hotel, Aberaeron, SA46 0AQ
    – Nos Lun 28 Ebrill, 19:30, Rhithiol ar Microsoft Teams
    – Nos Iau 1 Mai, 19:30, HaverHub, Yr Hen Swyddfa Bost, 12 Quay St, Hwlffordd, SA61 1BG

    Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu eisiau trefnu sgwrs, mae croeso i chi gysylltu â mi.

    Cofion cynhesaf,

    Colin

  • Fy addewid: Siarad Cymraeg yn unig yn ein Senedd

    Annwyl gyd-bleidiwr

    Diolch yn fawr i’r rheiny ohonoch chi sydd wedi datgan eich cefnogaeth i mi eisoes. Mae wedi bod yn hyfryd darllen rhai o’r negeseuon caredig rwyf wedi’u derbyn ers i mi ddatgan fy ymgeisyddiaeth.

    Rwyf newydd ddychwelyd o gynhadledd wanwyn y Blaid yn Llandudno – ac roedd cynnwrf i’w deimlo ymysg pawb fuodd yno. Mae gennym gyfle gwirioneddol i ddod yn brif blaid ein Senedd ac felly i arwain Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf yn ein hanes.

    Braf oedd clywed dau gyhoeddiad polisi o bwys: taliad plant i fynd i’r afael â thlodi a thorri trethu busnes i fusnesau bach lleol. Yn ddiau, byddai’r polisïau hynny yn cael effaith gadarnhaol iawn yn ein cymunedau yma yn y Gorllewin.

    Rwy’n ysgrifennu i’ch diweddaru ar un o’m haddewidion. Dros yr wythnosau nesaf, byddaf yn cynnig rhagor o fanylion ynghylch nifer o faterion o bwys – rhai ohonynt yn lleol a rhai’n genedlaethol. Fel aelod, rwy’n credu eich bod yn haeddu gwybod lle rydw i’n sefyll cyn i chi bleidleisio o fis nesaf ymlaen.

    Hoffwn ddechrau lle ddechreuodd fy nhaith yn ein mudiad cenedlaethol. Fe brofodd dysgu Cymraeg fel oedolyn – taith a gychwynnodd yn Llambed chwarter ganrif yn ôl – yn chwyldroadol i mi. Mae’n gwbl ganolog i bwy ydw i heddiw.

    Nid wyf yn credu’r dylai’r cyfrifoldeb am adfer iaith ddibynnu ar ymddygiad unigolion – mae angen ymdrech gydlynus ar sawl lefel i’w chryfhau mewn meysydd megis tai, gwaith, hawliau ac addysg. Ein nod ni, a’m nod i, yw adfer y Gymraeg fel prif iaith ein cenedl.

    Fodd bynnag, i’r rhieny sy’n fy nabod, byddwch yn gwybod pa mor agos yw’r Gymraeg at fy nghalon a byddaf yn defnyddio’r Gymraeg bob cyfle y caf.

    Felly, pe bawn mor ffodus i gael fy ethol, byddwn yn siarad Cymraeg yn unig yn siambr y Senedd. Yn ogystal, byddwn yn cynnal fy ngwaith yn ein bywyd cyhoeddus drwy’r iaith ar bob cyfle posib. Ni fyddai’n ddiffuant i mi wneud dim byd arall.

    Efallai y bydd rhai yn gweld hyn yn rhyfedd, ac eraill yn ei weld yn eithrio pobl, ond rwy’n ymwrthod yn llwyr ag agweddau felly. Nid y Gymraeg ei hun sy’n cau pobl allan, ond yn hytrach y strwythurau cymdeithasol yr ydym yn eu cynnal sy’n gwneud hynny. Mae’n rhaid taclo’r dadleuon camarweiniol hyn a newid strwythurau er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn wirioneddol iaith i bawb. Dyna un o’m haddewidion i chi.

    Cefnogwyr Colin


    Rwy’n falch o dderbyn cefnogaeth rhagor o aelodau yn yr etholaeth – yr ymgyrchydd Sian Howys, Valerie Jones o Lanbadarn a Rhiannon Davies o Lanfarian.

    Diolch i Valerie am anfon y geiriau hyfryd hyn dros e-bost: “Mae angen llais cryf, ddi-ildio, yma yn y Gorllewin, rhywun sydd â than yn ei fol, ond sydd hefyd yn strategydd craff. Mae’n amlwg o’ch cefndir gwaith fod y sgiliau angenrheidiol gennych i gyflawni.”

    Pe hoffech gefnogi fy ymgyrch, mae croeso i chi e-bostio colin@nosworthy.cymru

    Rwy’n edrych ymlaen at rannu mwy o’m gweledigaeth a’m haddewidion polisi dros yr wythnosau nesaf a diolch am ddarllen y neges hon. Gallwch chi ddilyn y diweddaraf o’m hymgyrch ar fy nhudalen Facebook neu ar Instagram. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu eisiau trefnu sgwrs, mae croeso i chi gysylltu â mi.

    Cofion cynhesaf,

    Colin

    Colin Nosworthy dros Geredigion Penfro – dros degwch, y Gymraeg, ac annibyniaeth

  • Cyhoeddiad

    Annwyl gyd-bleidiwr
    Diolch, yn gyntaf oll, i chi am gefnogi’r Blaid: heb gefnogaeth aelodau fel chithau fyddai Cymru heb Senedd, heb lais a heb obaith; a buasai’n amhosibl i ni fod ar ein ffordd i ennill ein hannibyniaeth fel cenedl.
    Rwy’n cysylltu i roi gwybod i chi fel un o aelodau etholaeth newydd Ceredigion Penfro fy mod i’n ceisio am eich enwebiad i sefyll yn etholiadau’r Senedd yn 2026.
    Pe bawn mor ffodus â chael fy newis gennych chi, rwy’n addo bod yn llais cryf dros ein cymunedau.
    Byddaf yn ddi-ildio yn fy nghefnogaeth i annibyniaeth flaengar i Gymru, y Gymraeg, a thegwch economaidd i bobl a chymunedau’r Gorllewin.
    Pwy ydw i?
    Rwy’n byw yn Aberystwyth ers 5 mlynedd, ac â swydd gyda’r Brifysgol yma, a hynny wedi dros ddegawd yn gweithio o Geredigion. Rwy’n teimlo’r fraint o fyw mewn ardal mor hardd yn aml – o nofio yn y môr oddi ar ein traethau bendigedig, mynd i’r capel neu brynu o’r siopau lleol annibynnol arbennig sydd gennym.
    Cefais fy ngeni a’m magu yma yn y Canolbarth, ond nid wyf yn dod o gefndir arferol i ddarpar-wleidydd Plaid Cymru. Fi oedd y cyntaf yn fy nheulu i gael fy ngeni yng Nghymru; a fy mrawd a finnau yw’r genhedlaeth gyntaf i fedru ein hiaith genedlaethol.
    Yn y Brifysgol yn Rhydychen fe gefais i ddeffroad gwleidyddol, a byth ers hynny rwyf wedi ymroi i ddysgu’r Gymraeg, ymgyrchu drosti a’r mudiad cenedlaethol yn ehangach. Er i mi raddio yn Lloegr, yr addysg orau a gefais erioed oedd gweithio dros Gymdeithas yr Iaith am ddeng mlynedd.
    Yn ystod haf 2000, dechreuais astudio’r Gymraeg fel oedolyn yn Llambed. Yn ystod y cwrs hwnnw aethom ar daith i’r Eisteddfod Genedlaethol a dyna ble ymaelodais i â Phlaid Cymru.
    Yn 2014, roeddwn i’n ffodus i fod yn rhan o’r grŵp bach a sefydlodd Yes Cymru, ac roeddwn yn rhan ganolog o lunio ei ddogfen bolisi gyntaf, ‘Annibyniaeth yn Dy Boced’. Rwyf hefyd wedi bod yn rhan o sefydlu dau fudiad arall sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth ers hynny, gan gynnwys fel un o sylfaenwyr Melin Drafod.
    Rwyf wedi dal nifer o swyddi oddi mewn i’r Blaid – yn ein Senedd, yn San Steffan, fel Pennaeth Strategaeth a fel Cynghorydd Arbennig yn y Llywodraeth. Yn fwyaf diweddar, rwyf wedi rhoi gwasanaeth fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu Cenedlaethol ar Bwyllgor Gwaith y Blaid dros y ddwy flynedd ddiwethaf – gan fod yn rhan o’r tîm a sicrhaodd y canlyniad gorau yn San Steffan yn ein hanes.
    Tu hwnt i rengoedd y Blaid, rwyf wedi bod yn aelod o Fwrdd Mudiad Meithrin, Senedd Cymdeithas yr Iaith, a Phwyllgor Gwaith Undeb y Newyddiadurwyr.
    Oherwydd yr holl brofiadau hynny, bydd nifer ohonoch yn fy adnabod. Fodd bynnag, nid wyf am i chi bleidleisio drosof i oherwydd eich bod yn fy adnabod i neu fy nheulu, ond oherwydd fy ngwerthoedd, fy sgiliau, a’m gallu i gyflawni.
    Ein gobaith, a’m gobaith i, yw dod yn droednodyn yn y rhagair sy’n cyflwyno hanes llwyddiant y Gymru annibynnol.
    Ar y cyd, ein dyletswydd nawr yw disodli’r Blaid Lafur o’r grym maen nhw wedi dal ym Mae Caerdydd ers llawer rhy hir, a dod yn blaid sy’n arwain y Llywodraeth am y tro cyntaf yn ein hanes. Pa ffordd well i ddathlu ein canmlwyddiant fel plaid?
    Cefnogwyr Colin
    Yn nyddiau cynnar yr ymgyrch hon, rwy’n falch o dderbyn cefnogaeth nifer o aelodau gan gynnwys yr actores Sue Jones-Davies, cyn-Faer Aberystwyth Dr Talat Chaudhri a’r awdur Angharad Tomos.
    Pe hoffech gefnogi fy ymgyrch, mae croeso i chi e-bostio colin@nosworthy.cymru.
    Etholiad 2026 – system newydd 
    Wrth i faint y Senedd ehangu i 96 aelod, fel ei bod yn barod am ein hannibyniaeth, ac yn dilyn penderfyniadau gan Gyngor Cenedlaethol a Phwyllgor Gwaith y Blaid, mae gwarant y bydd menyw ar frig y rhestr yn ein hetholaeth newydd ni, Ceredigion Penfro. Mae lle hefyd wedi ei warantu i fenyw yn y trydydd safle ar y rhestr. Felly, rwy’n gofyn i chi bleidleisio drosof i fel rhif 1 er mwyn dod yn ail ar ein rhestr, sydd yn sedd agored. Rydyn ni’n ffodus iawn bod gennym ni gynrychiolwyr mor gadarn yn Ben ac Elin, a fy nod yw ymuno â’r tîm disglair hwnnw.
    Diolch am ddarllen y neges hon a gobeithiaf y byddwch yn ystyried fy nghais i’ch cynrychioli yn ein Senedd fawr newydd. Gallwch chi ddilyn y diweddaraf o’m hymgyrch ar fy nhudalen Facebook neu ar Instagram. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu eisiau trefnu sgwrs, mae croeso i chi gysylltu â mi drwy ymateb i’r e-bost hwn.
    Cofion cynhesaf,
    Colin
    Colin Nosworthy dros Geredigion Penfro – dros degwch, y Gymraeg, ac annibyniaeth