Annwyl gyd-bleidiwr
Diolch, yn gyntaf oll, i chi am gefnogi’r Blaid: heb gefnogaeth aelodau fel chithau fyddai Cymru heb Senedd, heb lais a heb obaith; a buasai’n amhosibl i ni fod ar ein ffordd i ennill ein hannibyniaeth fel cenedl.
Rwy’n cysylltu i roi gwybod i chi fel un o aelodau etholaeth newydd Ceredigion Penfro fy mod i’n ceisio am eich enwebiad i sefyll yn etholiadau’r Senedd yn 2026.
Pe bawn mor ffodus â chael fy newis gennych chi, rwy’n addo bod yn llais cryf dros ein cymunedau.
Byddaf yn ddi-ildio yn fy nghefnogaeth i annibyniaeth flaengar i Gymru, y Gymraeg, a thegwch economaidd i bobl a chymunedau’r Gorllewin.
Pwy ydw i?
Rwy’n byw yn Aberystwyth ers 5 mlynedd, ac â swydd gyda’r Brifysgol yma, a hynny wedi dros ddegawd yn gweithio o Geredigion. Rwy’n teimlo’r fraint o fyw mewn ardal mor hardd yn aml – o nofio yn y môr oddi ar ein traethau bendigedig, mynd i’r capel neu brynu o’r siopau lleol annibynnol arbennig sydd gennym.
Cefais fy ngeni a’m magu yma yn y Canolbarth, ond nid wyf yn dod o gefndir arferol i ddarpar-wleidydd Plaid Cymru. Fi oedd y cyntaf yn fy nheulu i gael fy ngeni yng Nghymru; a fy mrawd a finnau yw’r genhedlaeth gyntaf i fedru ein hiaith genedlaethol.
Yn y Brifysgol yn Rhydychen fe gefais i ddeffroad gwleidyddol, a byth ers hynny rwyf wedi ymroi i ddysgu’r Gymraeg, ymgyrchu drosti a’r mudiad cenedlaethol yn ehangach. Er i mi raddio yn Lloegr, yr addysg orau a gefais erioed oedd gweithio dros Gymdeithas yr Iaith am ddeng mlynedd.
Yn ystod haf 2000, dechreuais astudio’r Gymraeg fel oedolyn yn Llambed. Yn ystod y cwrs hwnnw aethom ar daith i’r Eisteddfod Genedlaethol a dyna ble ymaelodais i â Phlaid Cymru.
Yn 2014, roeddwn i’n ffodus i fod yn rhan o’r grŵp bach a sefydlodd Yes Cymru, ac roeddwn yn rhan ganolog o lunio ei ddogfen bolisi gyntaf, ‘Annibyniaeth yn Dy Boced’. Rwyf hefyd wedi bod yn rhan o sefydlu dau fudiad arall sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth ers hynny, gan gynnwys fel un o sylfaenwyr Melin Drafod.
Rwyf wedi dal nifer o swyddi oddi mewn i’r Blaid – yn ein Senedd, yn San Steffan, fel Pennaeth Strategaeth a fel Cynghorydd Arbennig yn y Llywodraeth. Yn fwyaf diweddar, rwyf wedi rhoi gwasanaeth fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu Cenedlaethol ar Bwyllgor Gwaith y Blaid dros y ddwy flynedd ddiwethaf – gan fod yn rhan o’r tîm a sicrhaodd y canlyniad gorau yn San Steffan yn ein hanes.
Tu hwnt i rengoedd y Blaid, rwyf wedi bod yn aelod o Fwrdd Mudiad Meithrin, Senedd Cymdeithas yr Iaith, a Phwyllgor Gwaith Undeb y Newyddiadurwyr.
Oherwydd yr holl brofiadau hynny, bydd nifer ohonoch yn fy adnabod. Fodd bynnag, nid wyf am i chi bleidleisio drosof i oherwydd eich bod yn fy adnabod i neu fy nheulu, ond oherwydd fy ngwerthoedd, fy sgiliau, a’m gallu i gyflawni.
Ein gobaith, a’m gobaith i, yw dod yn droednodyn yn y rhagair sy’n cyflwyno hanes llwyddiant y Gymru annibynnol.
Ar y cyd, ein dyletswydd nawr yw disodli’r Blaid Lafur o’r grym maen nhw wedi dal ym Mae Caerdydd ers llawer rhy hir, a dod yn blaid sy’n arwain y Llywodraeth am y tro cyntaf yn ein hanes. Pa ffordd well i ddathlu ein canmlwyddiant fel plaid?
Cefnogwyr Colin
|
Yn nyddiau cynnar yr ymgyrch hon, rwy’n falch o dderbyn cefnogaeth nifer o aelodau gan gynnwys yr actores Sue Jones-Davies, cyn-Faer Aberystwyth Dr Talat Chaudhri a’r awdur Angharad Tomos.
Pe hoffech gefnogi fy ymgyrch, mae croeso i chi e-bostio colin@nosworthy.cymru.
![]() |
Etholiad 2026 – system newydd
Wrth i faint y Senedd ehangu i 96 aelod, fel ei bod yn barod am ein hannibyniaeth, ac yn dilyn penderfyniadau gan Gyngor Cenedlaethol a Phwyllgor Gwaith y Blaid, mae gwarant y bydd menyw ar frig y rhestr yn ein hetholaeth newydd ni, Ceredigion Penfro. Mae lle hefyd wedi ei warantu i fenyw yn y trydydd safle ar y rhestr. Felly, rwy’n gofyn i chi bleidleisio drosof i fel rhif 1 er mwyn dod yn ail ar ein rhestr, sydd yn sedd agored. Rydyn ni’n ffodus iawn bod gennym ni gynrychiolwyr mor gadarn yn Ben ac Elin, a fy nod yw ymuno â’r tîm disglair hwnnw.
Diolch am ddarllen y neges hon a gobeithiaf y byddwch yn ystyried fy nghais i’ch cynrychioli yn ein Senedd fawr newydd. Gallwch chi ddilyn y diweddaraf o’m hymgyrch ar fy nhudalen Facebook neu ar Instagram. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu eisiau trefnu sgwrs, mae croeso i chi gysylltu â mi drwy ymateb i’r e-bost hwn.
Cofion cynhesaf,
Colin
Colin Nosworthy dros Geredigion Penfro – dros degwch, y Gymraeg, ac annibyniaeth
![]() |
Gadael Ymateb